|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
|
||
|
|
||
|
|
||
|
Agenda (142)v4 |
|
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
|
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
|
|
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|
4 Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26.89 mewn cysylltiad â Biliau arfaethedig Aelodau (5 munud)
NDM5275 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 26.89: Balotau ar gyfer Biliau arfaethedig Aelod’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2013; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26.89, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Dogfennau ategol: |
|
5 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM5262
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Peter Black (Gorllewin De Cymru) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai'r setliad datganoli fod yn seiliedig ar fodel pwerau a gedwir yn ôl.
Cefnogwyd gan:
Julie James (Gorllewin Abertawe) Mick Antoniw (Pontypridd) Keith Davies (Llanelli) Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru) Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru) Alun Ffred Jones (Arfon) Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) David Rees (Aberafan) Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dogfennau ategol: |
|
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau 03-13 i'r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol (60 munud)
NDM5274 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 03-13 i’r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol – a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 2 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 17.56;
2. Yn cymeradwyo Canllawiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Lobïo a Mynediad at Aelodau’r Cynulliad a nodir yn Atodiad C i’r Adroddiad; a
3. Yn cymeradwyo Rheolau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Ffordd mae Grwpiau Trawsbleidiol yn Gweithredu a nodir yn Atodiad D i’r Adroddiad ac sydd i ddod i rym ar 23 Medi 2013.
Dogfennau ategol: |
|
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5276 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod angen cymorth brys ar fusnesau bach ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion am ymgyrch stryd fawr cyn toriad yr haf;
2. Yn gresynu mai'r gyfradd siopau gwag ar y stryd fawr yng Nghymru yw'r uchaf ar dir mawr Prydain;
3. Yn cydnabod y cynnydd mewn benthyca gan Gyllid Cymru. Fodd bynnag, yn credu bod angen dull mwy lleol o ran cael gafael ar gyllid, ac felly'n galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i weithio gyda Chyllid Cymru i asesu a yw'r pecyn ariannol a gynigir i fusnesau yn gystadleuol yn y tymor hir;
4. Yn nodi'r cynigion a amlinellwyd yn nogfennau Ceidwadwyr Cymru ‘A Vision for the Welsh High Street’ ac ‘Invest Wales’ a'u cefnogaeth i fusnesau bach ledled Cymru; a
5. Yn nodi ymhellach bwysigrwydd seilwaith trafnidiaeth i gynorthwyo'r economi genedlaethol a lleol.
Gellir gweld ‘A Vision for the Welsh High Street’ drwy'r linc a ganlyn http://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/high_streets.pdf
Gellir gweld ‘Invest Wales’ drwy'r linc a ganlyn: http://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/invest_wales.pdf
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
“ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i leihau ardrethi busnes ar gyfer tenantiaid sy’n cymryd les eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, er mwyn annog adleoli ac adfywio canol trefi”
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y potensial i brentisiaethau gynyddu elw a chynhyrchiant busnesau bach, ac felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau ar gyfer busnesau bach.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd bancio lleol i dwf economaidd llwyddiannus a chynaliadwy busnesau mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o ehangu’r ddarpariaeth bancio cymunedol ac undebau credyd mewn cymunedau gwledig.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod Cyllid Cymru wedi’i gyfyngu yn ei allu i gynnig cyllid am gyfraddau cystadleuol, ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ddulliau amgen o gyllido busnesau.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 4.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn ‘Cynllun C: Cynllun i Symud yr Economi Cymreig Ymlaen’ gan Blaid Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig a chanol trefi.
Gellir gweld Cynllun C drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/uploads/Final_Cynllun_C_Cymraeg.pdf
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach i gynnwys mwy o fusnesau ar y stryd fawr. |
|
Cyfnod Pleidleisio |
|
8 Dadl Fer (30 munud)
NDM5273 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Y Fagl i Rieni: Mae gofal plant rhy ddrud yn atal teuluoedd rhag gweithio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2013